Map y Pentref

Dyma fap rhyngweithiol o Lanarthne. Dyluniwyd gan griw o bobl ifanc y pentref yn ystod Tachwedd 2023. Ysbrydolwyd y Gwaith gan hen fap a luniwyd wrth law gan Glwb Ffermwyr Ifanc Llanarthne yn 1972, ac er bod tipyn wedi newid ers hynny, mae tipyn yn dal i fod yr un peth hefyd ac mae’n braf meddwl y bydd y prif dirnodau yno ar gyfer y cenedlaethau nesaf hefyd. Dylunwyr: Anna Jones, Beca Curry, Mabli Callaghan Edwards, Awen Davidson, Freya Hughes.

Here is an interactive map of Llanarthne. Designed by a group of young people in the village during November 2023. The Work was inspired by an old map hand-drawn by Llanarthne Young Farmers Club in 1972, and although a bit has changed since then, a bit is still the same too and it's nice to think that the main landmarks will be there for the next generations too. Designers: Anna Jones, Beca Curry, Mabli Callaghan Edwards, Awen Davidson, Freya Hughes.

Map y Pentref
Eglwys Dewi Sant / St Athen Church Yr Hen Orsaf / The Old Train Station Wrights Tafarn yr Emlyn Yr Hen Efail / The Old Forge Tŵr Paxton Gardd Botaneg / Botanic Garden Capel y Dolau (Capel y Ddôl) Capel Saron

Eglwys Dewi Sant / St Athen Church

Credir fod Eglwys Dewi Sant, Llanarthne yn deillio o’r trydydd ganrif ar ddeg. Ymestynnwyd yr eglwys ar ddiwedd y pymthegfed ganrif ac ychwanegwyd ffenestri lliw. Hyd heddiw ceir carreg hynafol yng nghyntedd yr eglwys sef croes o’r degfed ganrif. Enwyd y groes yn ‘Groes Caecastell’ gan mae mewn cae o’r enw honno y’i canfuwyd. Ar un adeg fe’i ddefnyddiwyd fel camfa ym mynwent yr eglwys, ond mae bellach ar gael i bawb i’w edmygu.

St David's Church, Llanarthne is thought to originate from the Thirteenth Century. The church was extended at the end of the fifteenth century and stained glas windows were added. To this day there is an ancient stone in the foyer of the church which is a cross from the Tenth Century. The cross was named 'Caecastle's Cross' as it is was found in a field of that name. It was once used as a stile in the churchyard, but is now available to all to admire.

Yr Hen Orsaf / The Old Train Station

Agorwyd yr orsaf drên ar y 1af o Fehefin 1865 gan Rheilffordd Llanelli, ar y 1af o Ebrill 1880 cafodd ei israddio i fod yn ‘request stop’ ond dychwelwyd i wasanaeth arferol ym mis Mehefin o’r un flwyddyn. Defnyddiwyd y rheilffordd i gludo nwyddau, anifeiliaid a teithwyr. Caewyd yr orsaf ar y 9fed o Fedi 1963. Erbyn heddiw mae’r orsaf yn dŷ ac yn adeilad cofrestredig gradd ii.

The train station opened on the 1st of June 1865 by the Llanelli Railway, on the 1st of April 1880 it was downgraded to a request stop but usual service resumed in June of the same year. This train line was used to transport goods, livestock and passengers. The station closed on the 9th of September 1963. It is now a private residence and a grade ii listed building.

Wrights

Yn y deuddegfed ganrif defnyddiwyd y dafarn hon i gynnig lluniaeth i deithwyr a oedd yn teithio ar hewlydd y ‘Turnpike Trust.’ Canrif yn ddiweddarach newidiwyd yr enw i’r ‘Golden Grove Arms’ a buodd yn dafarn lewyrchus iawn nes iddo gau yn 2010. Dwy flynedd yn ddiweddarach agorwyd ‘Wrights Food Emporium’ a ddaeth yn fwyty a deli poblogaidd dros ben.

In the twelfth century this public house was used to offer refreshments to travellers travelling on the 'Turnpike Trust’ roads. A century later the name was changed to ‘the Golden Grove Arms’ and was a thriving pub until it closed in 2010. Two years later 'Wrights Food Emporium' was opened which became a hugely popular restaurant and deli.

Tafarn yr Emlyn

Yn y gorffennol enw’r dafarn oedd Y Paxton a’r Arglwydd Cawdor oedd y perchennog. Yn ôl pob sôn mae ysbryd yn y dafarn hyd heddiw! Ond ceir bwyd, diod a chwmni da yno.

Previously the Emlyn Arms was named The Paxton and in the past was owned by Lord Cawdor. Reputedly, the pub is haunted! But it serves good food, drink and company.

Yr Hen Efail / The Old Forge

Yn wreiddiol roedd yr adeilad yn rhan o stâd Cawdor dan berchnogaeth Mary Thomas. Ar ôl 1847 fe’i droswyd yn efail a pharhaodd i gael ei ddefnyddio fel hyn tan canol yr ugeinfed ganrif. Defnyddiwyd fel gorsaf betrol yn yr 1980au. Mae’r hen efail yn parhau i sefyll yn Llanarthne hyd heddiw ond bellach yn cael ei ddefnyddio fel bwthyn arferol. Dyma’r unig adeilad yn Llanarthne gyda thô gwellt.

The building was originally part of the Cawdor estate owned by Mary Thomas. After 1847 it was converted into a forge and continued to be used in this way until the mid-twentieth century. It was used as a petrol station in the 1980s. The old forge continues to stand at Llanarthne to this day but is now used as a normal cottage. It is the only building in Llanarthne with a straw roof.

Tŵr Paxton

Tirnod nodedig yw Tŵr Paxton sydd wedi bod yn edrych dros y pentref am dros 200 mlynedd. Credir iddo gael ei adeiladu gan Sir William Paxton o gwmpas 1814 a’i gynllunio gan S.P. Cockerell. Roedd y tŵr yn adfail, cyn iddo gael ei rhoddi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan yr Arglwydd Emlyn yn 1965. Yn 1964, tarwyd y tŵr gan fellten, ond erbyn heddiw mae ar agor i’r cyhoedd wedi’i llwyr adnewyddu.

Paxton Tower is a notable landmark which has been overlooking the village for over 200 years. It is believed to have been built by Sir William Paxton around 1814 and designed by S.P. Cockerell. The tower was a ruin, before it was given to the National Trust by Lord Emlyn in 1965. In 1964, the tower was struck by lightning, but today it is renovated and open to the public.

Gardd Botaneg / Botanic Garden

Agorwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn 2009, gan ddod yn gyflym yn atyniad poblogaidd i bobl led y Deyrnas Unedig. Caiff ei adnabod fel yr ardd a ymwelir fwyaf yng Nghymru, gyda’r nifer o dros 2.5 miliwn o ymwelwyr yn dal i dyfu. Mae’n ganolfan i ymchwil yn y maes botanegol ac yn ogystal i hynny, y dôm enwog sy’n edrych dros Neuadd Middleton a’r dyffryn yw’r tŷ gwydr rhychwant sengl fwyaf yn y byd!

The National Botanic Garden of Wales opened in 2009, quickly becoming a popular attraction for people across the United Kingdom. It is known as the most visited garden in Wales, with rhe figures of over 2.5 million visitors still growing. It is a centre for research in the botanical field and the famous dome overlooking Middleton Hall and the valley is the largest single span greenhouse in the world!

Capel y Dolau (Capel y Ddôl)

Adeiladwyd y capel Methodistiaid Calfinaidd ar dir Syr William Paxton o Neuad Middleton tua 1815, pan ddechreuodd achos y Methodistiaid Calfinaidd yma fel cangen o Landdarog. Mae Capel y Dolau (Capel y Ddôl) wedi ei gofrestru yn adeiladed rhestredig ar raddfa 2. Mae’r tu fewn wedi ei gynllunio’n syml gyda drysau cymesur ac oriel ar dair ochr a phulpud rhwng y drysau. Mae awyrgylch llonydd a heddychlon yn y capel.

 

The Calvinistic Methodist chapel was built on land tenanted by Sir William Paxton of Middleton Hall about 1815, when the Calvinistic Methodist cause began here as a branch of Llanddarog. Capel y Dolau (Capel y Ddôl) is registered as a grade 2 listed building. The interior is simply designed with symmetrical doors and a gallery on three sides and a podium between the doors. The chapel has a still and peaceful atmosphere.

Capel Saron

Capel yr Annibynwyr. Adeiladwyd yn 1868.

Cafwyd y tir ar gyfer adeiladu’r capel a'i fynwent ar brydles gan Edward Abadam Esq, Neuadd Middleton. Un amod a orchmynnwyd oedd arddangos arfbais y teulu uwchben drws y fynedfa i atgoffa mynychwyr o haelioni'r teulu. Er bod ein cynulleidfa yn oedrannus, mae'n dal i fod yn fan i addoli fel y gwnaeth i rai teuluoedd am dair / pedair cenhedlaeth. Mae hefyd yn cynorthwyo i gynnal defnydd o'r Gymraeg (mae rhai gwasanaethau yn Saesneg) ac yn hyrwyddo lles ac yn ganolbwynt da i'r aelodau hŷn.

 

Independent Chapel. Built in 1868.

The land for the construction of the chapel and its cemetery was leased from Edward Abadam Esq, Middleton Hall. One condition ordered was to display the family's coat of arms above the entrance door to remind attendees of the family's generosity. Although the congregation is elderly, it is still a place of worship as it has been for some families for three / four generations. It also assists in maintaining the use of Welsh language (some services are in English) and promotes wellbeing and is a good focal point for the older members.


Plwyf Llanarthne Parish 1972


Brasluniau Eirwyn Bennett Sketches

Dyma waith Eirwyn Bennett, a aned ac a fagwyd yn Bremenda Uchaf, fel ei fam. Mynychodd y ddau ysgol gynradd Llanarthne. Rhyngddynt, mae gan ddiweddar fam Eirwyn ac ef, 102 mlynedd o wybodaeth leol. Roedd Eirwyn am gofnodi’r hen ffermydd a bythynnod sy’n adfeilio, cyn iddynt gael eu colli am byth. Felly, dechreuodd ar ei brosiect o gofnodi ‘eiliad mewn amser’, nid yn unig gyda darluniau o hen dau Llanarthne, ond rhai newydd hefyd. Dechreuodd ym mis Tachwedd 1986, ac mae’n cofio, iddo fod yn aeaf oer iawn!

Meddai Eirwyn, “Rwy’n wrth fy modd bod perchnogion newydd wedi adnewyddu rhai o’r hen adeiladau bellach, gan rhoi ail gyfle iddynt 40 mlynedd yn ddiweddarach. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r brasluniau yma ac yn eu gweld yn ddiddorol.”

This is the work of Eirwyn Bennett, born and raised in Bremenda Uchaf, as was his mother.  They both attended Llanarthne primary school.  Between them, Eirwyn’s late mother and he, have 102 years of local knowledge.  Eirwyn wanted to record the old, decaying farmsteads and cottages before they were lost forever. Thus, his project to sketch a ‘snapshot’ in time, not only of the old but also some newer builds as well. He began in November 1986, which he recalls, was a very cold winter!

Eirwyn says, “I am happy to say some of these early structures have been given a new chance with sympathetic restoration by new owners, 40 years on. I hope you will enjoy the sketches and find them of interest.”

 

 


Cwis / Quiz

Kahoot

Y Prosiect / The Project

Mae ‘Yr Hen a ŵyr’ yn brosiect a weithredwyd gan Gyngor Cymuned Llanarthne o dan nawdd Cronfa Loteri’r Treftadaeth. Roedd yn ymdrech, yn dilyn cyfnod darniog Covid i ddod â phobl ifanc Llanarthne a’r to hŷn ynghyd. Teimlwyd fod gan y to hŷn lawer o wybodaeth hanesyddol a diwylliannol am y pentref na fyddai’r bobl ifanc yn gyfarwydd ag e. Heb ysgol yn y pentref, does dim lle amlwg i addysgu plant a phobl ifanc y pentref am yr ardal, a beth bynnag gan y bobl mae’r wybodaeth. Nid gan unrhyw sefydliad. Trefnwyd gweithdai a sesiynau sgwrsio mewn partneriaeth â Chlwb Ffermwyr Ifanc Capel-Arthne i annog y bobl ifanc i holi bobl hŷn y pentref am eu hatgofion, eu profiadau ac am hanes y pentref. Aeth y bobl ifanc ati wedyn i greu delweddau electroneg o’r hyn y dysgon nhw. A dyma rhai o’r adnoddau hynny i chi gael mwynhau.

‘Yr Hen a ŵyr’ is a project implemented by Llanarthne Community Council with Financial support from the Heritage Lottery Fund. It was an effort, following the fragmented Covid period, to bring Llanarthne young and the older generations together in the village. It was felt that the older peolpe had a lot of historical and cultural knowledge about the village that the young people would not be familiar with. Without a school in the village, there is no obvious place to teach the children and young people of Llanarthne about the area and their heritage. Also, the real knowledge belongs to the people and not to any organization. Workshops and social sessions were organised in partnership with Capel-Arthne Young Farmers Club to encourage the young people to ask village elders about their memories, experiences and history of the village. The young people then set about creating digital of what they learned. And here are some of those resources for you to enjoy.